Hymchwil a Datblygiad
Cychwynnodd rhaglen fawr CTB – Gwasanaethau Ymchwil a Datblygiad i Ddiwydiant Bwyd Amaeth Cymru - yn 2001 ac mae wedi bod yn gyfrifol am nifer o lwyddiannau yn nhermau lansio cynhyrchion bwyd a manteision i’r diwydiant bwyd drwy Gymru gyfan. Mae rhai o’r cynhyrchion bwyd a lansiwyd drwy’r prosiect yma sydd wedi’i gyllido drwy’r rhaglen Amcan Un Ewropeaidd, wedi creu penawdau newyddion yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Heblaw am lwyddiannau ei brosiectau sydd wedi’u cyllido’n Ewropeaidd, mae’r CTB wedi parhau I ddarparu cyrsiau academaidd a rhai sydd wedi’u teilwra’n arbennig i bobl yn y diwydiant, a’r rheiny sy’n bwriadu ymuno â’r diwydiant.
Mae gan yr CTB gysylltiadau agos gyda nifer o sefydliadau ac asiantaethau allweddol eraill drwy Gymru sy’n galluogi’r cleientiaid i elwa o rwydwaith sefydledig o gysylltiadau.
Gallwn helpu cleientiaid drwy eu tywys at y person perthnasol fydd wedyn yn gallu llywio’r cleient yn y cyfeiriad cywir gyda’u cyfraniad arbenigol.
Mae cyfle i’r cleientiaid ddod i ddeall ac elwa o arbenigedd mewn amrywiaeth o feysydd sy’n cynnwys Marchnata, Brandio, Defnydd Pacio, Ymchwil i’r farchnad a Deddfwriaeth.