Amdanom ni
Mae'r cyfleusterau yn yr CTB yn cynnwys neuaddau prosesu pwrpasol ar gyfer cig a physgod ffres, cynhyrchion y llaethdy a bwydydd parod; ystafell hyfforddi; cegin brofi ar gyfer datblygu cynhyrchion; labordy dadansoddi; ac ystafell fideogynadledda.
Trosglwyddo gwybodaeth i'r sector Bwyd a Diod
Sefydlwyd y Ganolfan Technoleg Bwyd (CTB) yn 1999 ac mae'n chwarae rôl allweddol o drosglwyddo gwybodaeth i'r diwydiant bwyd yng Nghymru ac ar draws y DU.
Gan weithio yn agos gyda busnesau bwyd er mwyn eu cynorthwyo i ennill mantais gystadleuol, mae gan y GTB adnoddau un pwrpas sydd yn galluogi busnesau bwyd i gael mynediad i gefnogaeth dechnegol, datrysiadau ymarferol, cyngor ac arweiniad ar feysydd sydd yn allweddol i dwf busnes.Gyda'r nod hir dymor o ddatblygu gallu i brosesu a chynhyrchu busnesau bwyd, anelwn at ddatblygu enw da Cymru a'r DU am gynhyrchu bwyd a diod arloesol sydd o'r ansawdd uchaf.
Mae'r cyfleusterau yma'n caniatáu i'r CTB ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i'r diwydiant bwyd, yn cynnwys gwaith ymchwil a datblygu, cyngor technegol, trosglwyddiad technoleg a cyrsiau hyfforddi sydd wedi'u teilwra'n benodol i gleientiaid. Mae'r Ganolfan hefyd yn darparu sgiliau ar gyfer y sector bwyd amaethyddol y gellir eu trosglwyddo i'r gweithlu gwledig er mwyn meithrin gweithgareddau entrepreneuraidd.