Cyrsiau Cynhyrchu Bwyd Pwrpasol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Canolfan Technoleg Bwyd, Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Mae hyd y cyrsiau yn amrywio
Cyrsiau Cynhyrchu Bwyd PwrpasolCyrsiau Byr
Ffoniwch y Ganolfan Technoloeg Bwyd heddiw ar 01248 383345 neu anfon e-bost i ftconline@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Dyma brif ddarparwr cyrsiau cynhyrchu bwyd arbenigol Gogledd Cymru. Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol i gwmnïau sy'n cynhyrchu bwyd a gallwn eu cynnig un ai yn ein cyfleusterau dynodedig yn y Ganolfan neu unrhyw leoliad yn y DU.
Rhai enghreifftiau o'r cyrsiau pwrpasol:
- Gweithdai Cigyddiaeth
- Gweithgynhyrchu Cig (halltu cig a gwneud selsig)
- Gweithdai Llaeth
- Archwiliadau Rheoli Ansawdd
- Synhwyraidd
- Diogelwch Bwyd - Cwrs Gloywi
Cysylltwch â CTB yn uniongyrchol i holi am le:
- 01248 383345
- ftconline@gllm.ac.uk
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y rhan fwyaf o'r cyrsiau.
Cyflwyniad
Mae pob cwrs yn cynnwys cymysgedd o gyflwyniadau tiwtor, ymarferiadau byr, ac astudiaeth achos gyda digon o drafodaethau ac ymarfer.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Cynhyrchu Bwyd
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Llangefni