Cyfleusterau, Gwasanaethau ac Offer

Cyfleusterau
Mae gan y Ganolfan dair neuadd brosesu yn ogystal â chegin brofi a
ddefnyddir yn bwrpasol i ychwanegu gwerth i gig a physgod, cynnyrch
llaeth a chynnyrch gardd. Ym mhob neuadd brosesu ceir ystod eang o offer modern ar raddfa ddiwydiannol a ddefnyddir i ddatblygu a threialu cynnyrch newydd.

Gwasanaethau
Mae'r tîm yn y Ganolfan Technoleg Bwyd yn cynnig amrediad eang o
gefnogaeth arbenigol er mwyn cynorthwyo busnesau i ddelio â'r her sy'n
wynebu'r sector fwyd.
