Neuadd Brosesu Cynnyrch Llaeth

Pasteureiddiwr HTST (1000l)
Pasteureiddiwr parhaus a reolir gan sgrin gyffwrdd Gemak yn gweithredu ar ystod o dymheredd hyd at 90°C; am amseroedd dal 20 eiliad, 2.5 munud neu 5 munud. Gellir dewis tymheredd yr allfa.

Pasteureiddiwr Swp (500l)
Pasteureiddiwr swp a reolir â sgrin gyffwrdd Gemak gyda dŵr poeth neu oerydd yn y siaced ar gyfer gwresogi ac oeri, gydag opsiynau ar gyfer troi'n araf neu gymysgu gweill uchel ar gyfer ychwanegu powdrau.

Homogoneddiwr (1000l)
Model Bertoli HA31015, pwysedd gweithio hyd at 300 bar. Yn atal hufennu mewn llaeth, neu'n gwella llyfnder cymysgedd hufen iâ, trwy leihau maint globylau braster.

Gwahanydd Hufen
Gwahanydd Andritz Frau, yn gwahanu hufen oddi wrth laeth sgim, cyn ei basteureiddio. Cynnwys braster addasadwy.

Corddwr Menyn
Corddwr Menyn Elecrem Elba 80, yn cymryd hyd at 32 litr o hufen, padl yn cylchdroi i ffurfio menyn.

Ffurfiwr Menyn
Ffurfiwr menyn Gemak, menyn yn cael ei lenwi i mewn i’r hopiwr a'i allwthio i gludfelt trwy ddewis o dair allfa gylchol o ddiamedr amrywiol, gyda thorrwr gwifren i ffurfio darnau 250g, 500g neu 1kg.

Twb Caws (200l)
Twb caws Asta gyda siaced ddŵr wedi'i rheoli â thermostat

Twb Caws (400l)
Dau dwb caws mawr gyda siaced ddŵr thermostatig ar gyfer rheoli tymheredd, un gyda stwriwr ceuled awtomataidd.

Pasteureiddiwr Swp Hufen Iâ (120l)
Carpigiani Patomaster 120 RTL. Cymysgu gwellau uchel ar gyfer ymgorffori cynhwysion. Gwresogi ac oeri rhaglenadwy ar gyfer pasteureiddio a heneiddio cymysgeddau hufen iâ.

Rhewgell Swp Hufen Iâ
RSS Hereford Corema Eurogel 900, model Taylor 220, a rhewgelloedd swp hufen iâ Robot Coupe Musso Consul. Rhewi dognau o gymysgedd hufen iâ gyda blasau ychwanegol, gan gychwyn y broses rewi a chwipio aer i mewn i'r cymysgeddau.

Peiriant Llenwi Potiau Hufen Iâ
RSS Hereford Telme Variofill, mae'r silindr yn cael ei lenwi â hufen iâ o'r swp-rewgelloedd a'i allwthio gan ddefnyddio aer cywasgedig, gan lenwi potiau o 100ml i fyny.

Oerydd/Rhewgell Chwyth
Modelau Techfrost M20 gyda rhaglenni ar gyfer oeri chwyth, rhewi chwyth, caledu hufen iâ, dadmer, coginio a sychu'n araf.

Gwasg Caws Niwmatig
Gwasg caws gorsaf sengl a gorsaf ddwbl ar gyfer gwasgu caws caled.

Pasteureiddiwr swp (120l)
Llestr siaced dŵr ar gyfer gwresogi ac oeri dŵr oer, gan ei droi'n awtomatig.

Tanc Cymeriant Llaeth Amrwd (1000l)
Model Milkplan MPV1000. Defnyddir ar gyfer storio llaeth amrwd yn y llaethdy. Oeri awtomatig gydag oergell ei hun yn y siaced.

Tanc Storio Llaeth wedi'i Basteureiddio (1000l)
Model Milkplan MPV1000. Defnyddir ar gyfer llaeth wedi'i basteureiddio neu storio cynnyrch llaeth yn y llaethdy. Oeri awtomatig gydag oergell ei hun yn y siaced.