Labordy Dadansoddol
Mae'r labordy dadansoddol yn cynnwys popeth sydd ei angen ar gyfer cynnal asesiadau o gymeriad a chyfansoddiad cynnyrch bwyd.
Mae'r labordy dadansoddol yn cynnwys popeth sydd ei angen ar gyfer cynnal asesiadau o gymeriad a chyfansoddiad cynnyrch bwyd gan gynorthwyo i gael gwell dealltwriaeth o dechnoleg a thechnegau prosesu a pherfformiad y cynnyrch yn y farchnad. Mae'r labordy hefyd yn darparu ymchwil i ymarferoldeb cynhyrchion a chynhwysion mewn systemau bwyd.
Y mathau o wasanaethau arbrofi ar gael yn y labordy cynhwysfawr:
- Dadansoddiad Oes Silff
- Dadansoddiad Maethol
- Egni
- Protein
- Braster
- Halen
- Alcohol
- Lleithder
- Solidau Toddadwy
- Gweithgaredd Dŵr
Ar yr un safle â'r Ganolfan Technoleg Bwyd mae labordy MBCC (Marine Biological and Chemical Consultants). Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig olrheiniadwyedd llawn ac achrediad UKAS ar gyfer ystod eang a chynyddol o ddadansoddi.