Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Neuadd brosesu cig/pysgod

Ffatri torri cig 100 metr sgwâr wedi'i gymeradwy gan yr UE, lle gwneir datblygiad cynnyrch, gweithgynhyrchu ar brydles a gweithdai cigydda ymarferol.

Mae'r cyfleusterau yn cynnwys siambr rheoli atmosffer hinsawdd, pacio o dan wactod, peiriant sleisio, melin gig diwydiannol a sawl darn arall o offer y disgwyliech chi weld mewn uned gweithgynhyrchu cig.

Mae cyrsiau cigydda a hyfforddiant gyda gwerth ychwanegol wedi'i deilwra yn cymryd lle yn y neuadd gig. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cigydda Cig Eidion (Chwarthor blaen a Chwarthor ôl)
  • Gweithdy Cigydda Cig Oen
  • Gweithdy Cigydda Porc
  • Rhaglen Gwneud Selsi
  • Technegau Halltu
  • Cig a Sychwyd ag Aer
  • Datblygu Cynnyrch Newydd

Gan weithio gyda'r tîm yn y Ganolfan Technoleg Bwyd byddwch yn dysgu technegau newydd tra hefyd yn datblygu eich cynnyrch eich hun. Gall busnesau logi'r cyfleusterau hyn er mwyn cynhyrchu sypiau mwy o'u cynnyrch.