Datblygu cynyrch newydd
Gall y Ganolfan Technoleg Bwyd strwythuro a rheoli rhaglenni datblygu cynnyrch newydd ar gyfer cwmnïau, pa un ai a yw hyn yn golygu addasu cynnyrch presennol neu ddatblygu dewisiadau newydd. Mae'r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer datblygu cynnyrch newydd yn dechrau gyda datblygu cysyniad, yn aml gan ddefnyddio'n cegin bwrpasol ar gyfer profi prototeipiau'n ansoddol a meintiol. Dilynir hyn drwy gynhyrchu ar raddfa beilot ac optimeiddio prosesau, pecynnu, dadansoddi oes silff a gwerthusiad synhwyraidd.
Gall cleientiaid weithio gyda'r staff technegol yn y Ganolfan Technoleg Bwyd neu gall ein harbenigwyr weithio law yn llaw gyda staff ar safle'r cwmni er mwyn sicrhau bod yr holl agweddau ar ddatblygu'r cynnyrch newydd yn cael eu trosglwyddo'n iawn wrth sefydlu prosesau cynhyrchu graddfa eang.
Arloesedd
Mae adolygiad o astudiaethau achos y cynhyrchion a ddatblygwyd yn y Ganolfan yn dangos pa mor gymwys yw'r tîm i gynorthwyo cwmnïau i greu cynnyrch arloesol newydd. Rydym yn adolygu technolegau, tueddiadau a gwobrau arloesi newydd ar draws Cymru a thu hwnt yn rheolaidd er mwyn annog ein cleientiaid i greu cynnyrch sydd â phwynt gwerthu unigryw.
Ailffurfio rysetiau
Gyda phwyslais cynyddol ar iechyd defnyddwyr mae tîm y Ganolfan Technoleg Bwyd mewn sefyllfa dda i ailffurfio cynnyrch drwy leihau eu cynnwys halen, braster a siwgr. Mewn rhai achosion mae'n ddoeth cyflwyno'r newidiadau mewn camau fel y bo defnyddwyr yn raddol addasu eu disgwyliadau o'r cynnyrch gan beidio sylwi efallai ar unrhyw newid. Bydd profion ailffurfio'n digwydd law yn llaw â dadansoddiad synhwyraidd, profion cyfansoddiadol a microbiolegol, a hefyd yn rhoi ystyriaeth i unrhyw ofynion deddfwriaethol neu ganllawiau.