Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Profi Cynyrch

Bydd profi cynnyrch, pa un ai'n gyfansoddiadol neu'n ficrobiolegol, bod amser yn ofynnol ar gyfer cynnyrch newydd a chynnyrch sy'n bodoli. Yn y Ganolfan Technoleg Bwyd gallwn ymdrin â'r holl ofynion hyn, un ai yn ein labordy neu drwy'n rhwydwaith o ddarparwyr gwasanaethau profi achrededig.

Profi maethol

Oherwydd pryderon am iechyd y genedl ceir pwyslais cynyddol ar archwilio cynnwys maethol ein cynnyrch bwyd ac mae'r ffocws ar roi gwybodaeth i ddefnyddwyr i'w helpu wrth ddewis cynnyrch. Yn Rhagfyr 2016 daw yn orfodol i gynnwys datganiad maethol ar becynnau bwyd gan nodi'n eglur y gwerthoedd ar gyfer braster, braster dirlawn, carbohydradau, siwgr, protein a halen fel cyfran o'r cynnyrch terfynol. Os dymunir gellir cynnwys maetholion eraill: braster mono-annirlawn, braster amlannirlawn, polyols, startsh a ffibr. Gellir cynnwys fitaminau a mwynau hefyd os ydynt yn bresennol mewn symiau digonol. Caiff y datganiad ei gyflwyno yn ôl 100g neu 100ml o'r cynnyrch, er y gellir ei ddatgan ar sail cyfran yn ogystal.

Yn y Ganolfan Technoleg Bwyd gallwn ddarparu dadansoddiad maethol llawn o'ch cynnyrch yn unol â'ch gofynion. Fel arfer caiff y rhain eu darganfod drwy ddadansoddiad mewn labordy. Ar gyfer rhai cynhyrchion, lle mae gwerth maethol y cynhwysion yn hysbys neu ar gael o ddata dilys, mae modd cyfrifo'r datganiad.

Gwasanaethau labordy

Mae'r labordy dadansoddol yn y Ganolfan Technoleg Bwyd yn cynnwys popeth sydd ei angen ar gyfer cynnal asesiadau o gymeriad a chyfansoddiad cynnyrch bwyd gan gynorthwyo i gael gwell dealltwriaeth o dechnoleg a thechnegau prosesu a pherfformiad y cynnyrch yn y farchnad. Mae'r labordy hefyd yn darparu ymchwil i ymarferoldeb cynhyrchion a chynhwysion mewn systemau bwyd.

Gellir cael mynediad i'r gwasanaethau canlyno drwy'r Ganolfan Technoleg Bwyd:

  • Dadansoddi maethol
    • Braster, carbohydradau, protein, halen, egni, fitaminau, mwynau
  • Dadansoddi cyfansoddiad llaeth
    • Braster, protein, lactos, solidau llwyr, solidau di-fraster
  • Dadansoddi llaeth
    • Gwrthfiotigau, ffosffatas, gostyngiad rhewbwynt
  • Dadansoddi alcohol (abv)
  • Solidau toddadwy (°brix)
  • Dadansoddi lleithder
  • Gweithgaredd dŵr ac asesiad ph
  • Dadansoddi ansawdd a gludedd
  • Profi alergenau
  • Metelau hybrin a thocsinau naturiol
  • Dadansoddi braster (surni ac asidau brasterog rhydd)
  • Dadansoddi caffein
  • Profi rhywogaeth cig a llaeth
  • Profi difwyniad a dilysrwydd
  • Dadansoddi plaleiddiaid
  • Gwasanaethau bragu

Profi microbiolegol

Ar yr un safle â'r Ganolfan Technoleg Bwyd mae labordy MBCC (Marine Biological and Chemical Consultants) ac mae'n ei ddefnyddio i brofi bwyd yn ficrobiolegol. Mae'r gwasanaeth hwn yn gwbl olrheiniadwy ac yn cynnig achrediad UKAS llawn.

Mae profi microbiolegol yn rhan hanfodol o'r broses o ddatblygu cynnyrch newydd gan wirio'r dulliau a ddefnyddir ar bob cam o'r broses. Yn ogystal, mae profi cynnyrch yn rheolaidd yn rhan hanfodol o systemau diogelwch bwyd pob cwmni.

Gall micro-organebau mewn cynnyrch bwyd gynnwys pathogenau a all achosi salwch, ynghyd â micro-organebau dirywio bwyd sy'n gwneud bwyd yn anaddas i'w fwyta. Mae enghreifftiau o bathogenau'n cynnwys rhywogaethau Salmonela, Listeria monocytogenes, E. Coli 0157. Bacillus cereus, Staphylococcus aureus a Clostridium perfringens. Gall micro-organebau dirywio bwyd gynnwys Enterobacteriaceae, burumau a llwydni. Mae TVC (Total Viable Counts) yn fesur defnyddiol ar gyfer ansawdd bwyd.

Gall tîm y Ganolfan Technoleg Bwyd gynghori ar ba ficro-organebau sydd angen eu profi mewn gwahanol fathau o gynnyrch bwyd. Byddant hefyd yn darparu dehongliad llawn o ganlyniadau profion yn unol â gofynion deddfwriaethol a chanllawiau'r UE a'r DU.

Oes silff

Ar ôl datblygu cynnyrch newydd, rhaid cynnal profion i bennu dyddiad 'defnyddio erbyn' neu 'ar ei orau cyn' ar gyfer defnyddwyr. Rhaid edrych ar ddwy agwedd: yn gyntaf rhaid asesu ansawdd y cynnyrch (blas, ymddangosiad ac arogl), ac yna rhaid pennu ei ddiogelwch drwy gynnal profion microbiolegol dros yr oes silff a ragfynegir tra caiff y cynnyrch ei storio o dan amgylchiadau penodol. Mae angen rhoi cyfarwyddyd ynghylch 'defnyddio o fewn x diwrnod o'i agor' ar rai mathau o gynnyrch.

Yn ogystal, mae'n arfer da i ddilysu'r oes silff a ddynodwyd drwy gynnal profion pellach, yn enwedig os cafwyd unrhyw newidiadau yn y dull cynhyrchu. Mae staff y Ganolfan Technoleg Bwyd yn cynnal profion oes silff sy'n bodloni eich gofynion ac yn darparu dehongliad llawn o'r canlyniadau.