Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyngor technegol

Cynigir cyngor ar ystod helaeth o bynciau'n ymwneud â bwyd gan gynnwys dehongli deddfwriaeth fwyd, labelu a nifer o faterion rheoliadol a thechnegol eraill. Gellir darparu cyngor mewn cyfarfodydd un i un, dros y ffôn, drwy e-byst, mewn adroddiadau ysgrifenedig neu drwy ymweld â safle'r cleient.

Labelu

Gall y Ganolfan Technoleg Bwyd ddarparu cyngor ar sicrhau bod labeli bwyd yn cydymffurfio'n gyfreithiol â 'Rheoliad 1169/2011 yr UE ar Ddarparu Gwybodaeth am Fwyd i Gwsmeriaid'. Gellir paratoi rhestrau o gynhwysion ar gyfer cynnyrch newydd gan dynnu sylw at unrhyw alergenau sy'n bresennol. Mae'n bosibl y bydd angen gwybodaeth ychwanegol am swm y bwyd, sut y dylid ei gadw, ei darddiad a chyfarwyddiadau ar gyfer ei ddefnyddio. Gellir defnyddio dyddiadau parhad ar ffurf dyddiad 'defnyddio erbyn' neu 'ar ei orau cyn', gan ddibynnu ar y math o gynnyrch. Erbyn diwedd 2016 bydd cynnwys gwybodaeth faethol yn ofyniad gorfodol.

Pecunnu

Gall tîm y Ganolfan Technoleg Bwyd fod o gymorth i gael y deunydd pacio iawn ar gyfer eich cynnyrch, pa un ai a yw'n bydradwy, yn ailgylchadwy neu'n ofyniad safonol ar gyfer math penodol o gynnyrch. Rhaid i'r deunydd pacio allu cadw a diogelu'r bwyd o'r adeg y caiff ei gynhyrchu i'r adeg y caiff ei ddefnyddio. Gall y math o ddeunydd a ddefnyddir a'r ffordd mae'n cael ei selio, ddylanwadu ar sefydlogrwydd ei oes silff. Gall deunydd pacio sydd wedi cael ei ddylunio'n dda ac iddo frand trawiadol gynyddu gwerthiant gan drosglwyddo neges glir i ddefnyddwyr am y cynnyrch maent yn ei brynu.

Prosesu

Mae gan dîm y Ganolfan Technoleg Bwyd y wybodaeth a'r arbenigedd i ymchwilio i'r offer a'r prosesau sydd fwyaf addas ar gyfer cynhyrchu bwyd o ansawdd. Gellir darparu cyngor ar ofynion cyfreithiol megis tymheredd pasteureiddio a chyfraddau oeri. Yn ogystal, mae'n allweddol gallu defnyddio cynhwysion o'r ansawdd gorau gan sicrhau perfformiad technegol cyson. Mae astudiaethau optimeiddio prosesau yn sicrhau bod cwmnïau cynhyrchu yn datblygu cynnyrch o'r ansawdd gorau i ddiwallu gofynion heriol y farchnad.

Deddfwriaeth

Gall deddfwriaeth ym maes bwyd fod yn dechnegol gymhleth gan fod rhaid dehongli termau anghyfarwydd a dogfennau hirfaith. Gall staff y Ganolfan Technoleg Bwyd eich tywys drwy'r gofynion sy'n berthnasol i'ch busnes cynhyrchu bwyd chi. Gyda gofynion cyfreithiol yn ymwneud â phopeth o godi eich adeilad, safonau prosesu, gofynion hylendid a phrofi cynnyrch, gallwn eich cynghori ar bob cam o'r broses. Mae cynhyrchwyr bwyd yn awr wedi'u cynnwys yn y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, a dyfernir sgôr rhwng 0 a 5 yn dilyn archwiliad gan Ymarferwr Iechyd Amgylcheddol. Gwnewch yn siŵr eich bod un cam ar y blaen drwy gael cymorth staff y Ganolfan Technoleg Bwyd i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol.

HACCP

Mae'n ofyniad cyfreithiol ar bob busnes bwyd i gael system diogelwch bwyd sy'n seiliedig ar egwyddorion HACCP. Ystyr HACCP yw 'Hazard Analysis Critical Control Point' sef system o weithdrefnau y mae'n rhaid i fusnesau bwyd eu gweithredu er mwyn sicrhau bod y bwyd a gynhyrchir yn ddiogel i'w fwyta.

Yn gyntaf mae'n rhaid casglu'r rheoliadau 'Hanfodol' sy'n ymwneud â'r amgylchedd cynhyrchu ac yn cadarnhau'r cynllun HACCP terfynol, megis polisïau ac amserlenni ar gyfer glanhau, rheoli plâu, rheoli gwastraff, cynnal a chadw a hyfforddi staff. Yna caiff unrhyw beryglon corfforol, cemegol, microbiolegol ac alergaidd posibl eu hasesu ar bob cam o'r broses. Bydd monitro'n digwydd lle bernir bod angen rheoliadau.

Mae tîm y Ganolfan Technoleg Bwyd wedi'i hyfforddi i helpu'r broses o ysgrifennu, dilysu a gwirio cynlluniau HACCP ar gyfer eich busnes. Mae'n bwysig adolygu cynlluniau HACCP yn flynyddol, neu'n amlach pan fo newidiadau wedi digwydd neu mewn ymateb i ddigwyddiad yn ymwneud â diogelwch bwyd.