Rhaglenni a Ariennir
Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn cymryd rhan weithredol mewn nifer o brosiectau sy'n cefnogi'r diwydiant cynhyrchu bwyd a diod
Mae prosiect HELIX yn cyflwyno gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth ymarferol, gan gynorthwyo cwmnïau o Gymru i ddatblygu ac ailffurfio cynhyrchion arloesol o'r camau cydsyniad, dylunio, datblygu a chynhyrchu nes eu bod yn cyrraedd basged siopa'r defnyddiwr.
Mae HELIX yn cynnig cymorth sy'n benodol ar gyfer anghenion eich cwmni ac yn fenter Cymru gyfan sy'n cael ei gyflwyno gan Arloesi Bwyd Cymru.
Mae HELIX yn cynnig tri phecyn ar gyfer busnesau cymwys yng Nghymru ac mae'r cymorth a gynigir yn dibynnu ar feini prawf penodol:
- Trosglwyddo Gwybodaeth - Tymor Byr - cymorth 100%
- Trosglwyddo gwybodaeth - Tymor Canolig - 100% meicro, 80% BBaCh a 50% cymorth ar gyfer busnesau mawr.
- Trosglwyddo Gwybodaeth - Hirdymor - Cysylltiad gyda chwmni BBaCH am o leiaf blwyddyn gyda chymorth llawn gan y Ganolfan Technoleg Bwyd. Rhaid i'r prosiect fod yn berthnasol ar lefel dechnegol a chaiff ei mentora gan un o'r Technolegwyr Bwyd a cheir mynediad at gyfleusterau'r ganolfan.