Cystadleuydd 'Aldi's Next Big Thing' yn canmol cefnogaeth y Ganolfan Technoleg Bwyd
Cyn ei ymddangosiad ar raglen Channel 4, dywedodd Gareth Griffith-Swain fod y ganolfan wedi bod yn 'hanfodol' i'w gwmni newydd - Fungi Foods
Mae arbenigwr madarch sydd ar fin ymddangos ar 'Aldi's Next Big Thing' wedi canmol y gefnogaeth a gafodd gan y Ganolfan Technoleg Bwyd i helpu i dyfu ei fusnes.
Bydd Gareth Griffith-Swain, o Waunfawr, yn ymddangos ar raglen Channel 4 nos Fawrth nesaf (Mai 7, 8pm), yn y bennod ‘Healthy and Wholesome’.
Gareth yw sylfaenydd Fungi Foods, cwmni newydd sy'n arbenigo mewn madarch egsotig ffres, gan gynnwys math o'r enw Pigau Barfog.
Cafodd y dyn 33 oed ei ddewis o blith cannoedd o ymgeiswyr a oedd yn cystadlu am gontract i stocio siopau Aldi ledled y wlad, a bydd yn cyflwyno ei fersiwn sych amlbwrpas o'r madarch.
Mewn fformat sych, gellir eu defnyddio wrth goginio neu eu hychwanegu at gawl, coffi, smwddis neu de, fel ffordd hawdd o'u bwyta bob dydd.
Cafodd Gareth gefnogaeth yn ei fusnes newydd gan Ganolfan Technoleg Bwyd Grŵp Llandrillo Menai yn Llangefni.
Y llynedd defnyddiodd y ganolfan i wneud profion hyd oes y cynnyrch ar y silff a hyfforddiant diogelwch bwyd pwrpasol trwy Brosiect HELIX. Bu hefyd yn defnyddio neuaddau paratoi bwyd y ganolfan i ddatblygu ei gynnyrch.
Dywedodd Gareth: “Mae’r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi fy nghefnogi ar amryw o brosiectau, o ddatblygu cynnyrch newydd, i brofi oes silff y cynnyrch, i fentora ar ddiogelwch bwyd.
“Mae’r ganolfan wedi bod yn rhan hanfodol o lwyddiant y busnes. Mae'r technolegwyr bwyd wedi bod yn wych ac maent wedi bod wrth law yn gyson i gynnig eu cefnogaeth a'u gwybodaeth. Mae'r neuaddau'n cynnwys yr holl offer sydd eu hangen arnaf ac maen nhw wedi cynnig cymorth gyda'u defnyddio pan oedd angen.
“Mae’n gaffaeliad gwych i Grŵp Llandrillo Menai ac mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud i gynorthwyo busnesau bwyd a diod lleol heb ei ail. Mae’r gwasanaeth a gefais wedi bod yn amhrisiadwy, ac mae wedi ein helpu i gynllunio camau nesaf y busnes a gweld sut y gallwn ni, yn ogystal â’r madarch, dyfu a datblygu!”
Wedi'i chyflwyno gan Anita Rani a Chris Bavin, mae Aldi's Next Big Thing yn gyfres chwe rhan sy'n gweld cyflenwyr yn cystadlu mewn amrywiaeth o gategorïau gan gynnwys ciniawau a nwyddau wedi'u pobi, yn ogystal â chategorïau newydd cyffrous: parti, byd, a melysion.
Mae'r cynhyrchion yn cael eu cyflwyno i Julie Ashfield, Rheolwr Gyfarwyddwr Prynu Aldi yn y Deyrnas Unedig, ac mae hi'n ystyried ffactorau megis y pris, pecynnu, y galw gan siopwyr, a'r gallu i gynyddu, cyn llunio rhestr fer o ddau gystadleuydd yn unig.
Yna caiff y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol bedair wythnos i roi sylw i unrhyw adborth, gydag Anita neu Chris yn ymweld â'u cartref ac yn adrodd yn ôl i Julie. Yna mae'r tri yn blasu'r cynnyrch sydd wedi'i wella, cyn i Julie benderfynu ar yr enillydd a fydd yn ymddangos fel Specialbuy mewn mwy na 1,000 o siopau.
Mae Gareth yn honni bod madarch yn ffynhonnell fwyd gynaliadwy, amlbwrpas a blasus, a’i nod yw arddangos y mathau hardd sydd ar gael.
Dywedodd: “Rwy’n credu bod gan fadarch ran fawr i’w chwarae yn nyfodol bwyd. Mae yna lawer o ymchwil niwrolegol sy'n canolbwyntio ar ddau gyfansoddyn a geir yn y madarch Pigau Barfog sy'n helpu twf derbynyddion yn yr ymennydd.
Wrth wneud hynny, gallant wella cof, ffocws a chanolbwyntio.”
I ddarganfod a gyrhaeddodd Madarch Pigau Barfog Gareth silffoedd Aldi, gwyliwch Aldi's Next Big Thing ar Channel 4 ddydd Mawrth 7 Mai.
- Os yw eich cwmni bwyd a diod wedi'i leoli yng Nghymru, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth a ariennir gan Brosiect HELIX gan y Ganolfan Technoleg Bwyd. Mae gan gwmnïau cymwys fynediad at ystod o gymorth. Ariennir Prosiect HELIX gan Lywodraeth Cymru.