Angel Feathers
Gyda chyllid gan Brosiect HELIX, roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd yn gallu cefnogi'r busnes trwy gynnal dadansoddiad cemegol ar ddetholiad o ddiodydd crefftus alcoholaidd i ddilysu eu prosesau gweithgynhyrchu ac i sicrhau cydymffurfiaeth â CThEM
Angel Feathers
Mae Angel Feathers yn ddistyllfa deuluol fechan yn Sir Ddinbych, gogledd Cymru sy’n cynhyrchu jin, fodca a rỳm gyda natur a chynaliadwyedd yn greiddiol iddi. Wedi'u lleoli ar Foel Famau, y copa uchaf ym Mryniau Clwyd, mae popeth yn cael ei ddewis, ei baratoi a'i saernïo yn eu cegin eu hunain sydd â sgôr hylendid bwyd pum seren.
Mae’r ddistyllfa’n aelod o Lwybr Bwyd Clwyd a dim ond dulliau traddodiadol a ddefnyddir ar gyfer pob swp bach unigol, gan gynnal safonau uchel iawn i sicrhau cynnyrch o safon sy’n dal pob blas nodweddiadol yn llawn.
Y gefnogaeth a gafwyd gan y Ganolfan Technoleg Bwyd
Gyda chyllid gan Brosiect HELIX, roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd yn gallu cefnogi'r busnes trwy gynnal dadansoddiad cemegol ar ddetholiad o ddiodydd crefftus alcoholaidd i ddilysu eu prosesau gweithgynhyrchu ac i sicrhau cydymffurfiaeth â CThEM. Cynhaliodd y Ganolfan Technoleg Bwyd brofion % ABV (Alcohol Fesul Cyfaint) ar gyfanswm o ddeg o jin, rým a fodca creffus blasus gwahanol. Gyda'r wybodaeth hon roedd Angel Feathers yn gallu gwirio a dilysu eu cynnwys alcohol, gan ganiatáu iddynt symud ymlaen â labelu eu cynnyrch terfynol.
Manteision y gefnogaeth
Dywedodd Katherine Wilding, sylfaenydd Angel Feathers, “Lle bynnag y bo modd, rydyn ni’n tyfu ein ffrwythau a’n cynnyrch botanegol ein hunain i sicrhau bod gennyn ni’r cynhwysion mwyaf ffres wrth law bob amser.
“Rydyn ni’n ymfalchïo mewn dewis y ffrwythau gorau o’n fferm ffrwythau feicro ar Foel Famau ar fore heulog, er mwyn i ni allu dal y blasau aeddfed yn eu hanterth. Rydyn ni’n poeni am yr amgylchedd, ac yn gweithio mewn cytgord â natur gan ddefnyddio egwyddorion organig i dyfu a meithrin ein ffrwythau, perlysiau a blodau, felly mae sicrhau bod ein cynnyrch wedi'i labelu'n gywir yn hanfodol.
“Roedd y gwaith a wnaed gan y Ganolfan Technoleg Bwyd yn hanfodol i’n busnes gan fod yn rhaid i ni gydymffurfio â’r holl reoliadau labelu diodydd alcoholig ar gyfer gwirodydd yn y DU er mwyn gallu gwerthu ein cynnyrch i’r cyhoedd. Gweithiodd y technolegydd bwyd yn effeithlon ac yn gyflym er mwyn i ni allu casglu’r wybodaeth ar gyfer y broses labelu.