Bragdy Môn
Ar ôl derbyn nawdd gan Brosiect HELIX, roedd Bragdy Môn yn gallu mynychu gweithdy bragu cychwynnol, mewn partneriaeth â Brewlab, yn y Ganolfan Technoleg Bwyd.
CEFNDIR
Sefydlwyd Bragdy Môn ym mis Gorffennaf 2017 fel bragdy bychan ar Ynys Môn gan y gŵr a gwraig Phil a Karen Chadwick, gyda mab Karen, Adam hefyd yn ymuno â'r tîm.
Yn y bragdy bychan, dechreuon nhw brofi a bragu gan ddefnyddio eu hoffer bragu cartref pum galwyn, gan ddatblygu 11 diod. Cynhalion nhw ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i ddod o hyd i brif flaswyr a gafodd eu gwahodd i flasu pedwar o'u hoff ddiodydd.
Roedden nhw wrth eu boddau ym mis Awst 2018 pan enillodd eu IPA Rhosneigr wobr Great Taste, a rhoddodd hyn hyder iddyn nhw gario ymlaen a datblygu eu cwrw craidd llwyddiannus, Chwerw Arbennig Iawn Bae Trearddur (ESB) a Chwrw Golau Cryf Beaumaris (SPA) sy'n ganolog i'w diodydd premiwm.
Ym mis Ebrill 2019 gyda'r galw'n dipyn mwy na'r cyflenwad, penderfynon nhw symud i adeilad mwy yn Llangefni, a dechreuwyd cynhyrchu yn y bragdy 10 casgen yn hydref 2019.
Y GEFNOGAETH A GAFWYD GAN Y GANOLFAN TECHNOLEG BWYD
Ar ôl derbyn nawdd gan Brosiect HELIX, roedd Bragdy Môn yn gallu mynychu gweithdy bragu cychwynnol, mewn partneriaeth â Brewlab, yn y Ganolfan Technoleg Bwyd. Mae Brewlab yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi arbenigol i'r rheiny sy'n rhoi cynnig ar fragu am y tro cyntaf hyd at fragwyr proffesiynol sydd eisiau cadw eu sgiliau a'u gwybodaeth yn gyfredol.
Cynhaliodd y Ganolfan Technoleg Bwyd brofion alcohol ar samplau o gwrw ar gyfer y labeli hefyd, yn ogystal â dilysu eu proses fewnol a helpu gyda eu gofynion labelu.
MANTEISION Y GEFNOGAETH
Gyda'r hyffoddiant gan Brewlab cawson nhw wybodaeth a phrofiad ymarferol o'r broses fragu, yn ogystal â mynediad at gwestiynau a thrafodaethau gydag arbenigwyr yn y diwydiant. Dywedodd Steven Prys Williams, Technegydd Bwyd,
Roedd y ffaith bod y cwrs mor lleol ar Ynys Môn, a'r gefnogaeth wedi ei hariannu, yn fantais fawr i'r cleient gan nad oedd angen teithio'n bell na thalu costau dros nos. Cawson nhw hefyd gyfleoedd i rwydweithio gyda chynhyrchwyr eraill a gwella eu sgiliau bragu. Roedd cyflymder yr ymateb i'r dadansoddiad alcohol hefyd wedi galluogi'r cleient i ddilysu eu proses lawer yn gynt, gan arwain at gael y cynnyrch ar y farchnad lawer yn gyflymach.
Eglurodd Phil Chadwick, perchennog a sylfaenydd Bragdy Môn,
Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn ddefnyddiol iawn i'n busnes bragu ni. Roedd mynychu'r cwrs Brewlab gyda nawdd gan Brosiect HELIX yn amhrisiadwy, ac mae'r Ganolfan yn gwneud eu gorau glas os oes unrhyw ymholiadau gennych chi. Rydyn ni hefyd wedi mynychu cwrs ymwybyddiaeth HACCP ac roedd achrediad STS gennyn ni yn ein hen fragdy. Fodd bynnag, ers symud i'r adeilad mwy rydyn ni wedi penderfynu cael achrediad SALSA felly ein cam nesaf yw mynychu gweithdy cwrw SALSA Plus yn y Ganolfan drwy Brosiect HELIX, ac rydyn ni'n ystyried elfennau mentora'r prosiect gyda'r posibilrwydd o gael cymorth gan un o'r technegwyr bwyd i gwblhau'r gwaith papur.