Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Charcuterie Môn

Gyda chyllid Prosiect Helix, daeth Mark i'r ganolfan i gael profiad ymarferol a thechnegol o gynhyrchu salami a chorizo

Cefndir

Mae Kayleigh a Mark Parry, gŵr a gwraig sy'n ffermio yn Ynys Môn, yn gwerthu bocsys o borc sydd wedi'i fagu yn yr awyr agored yn uniongyrchol o giât y fferm i’r cwsmer. Mae'r cynllun bocsys wedi bod yn llwyddiannus, felly mae'r ddau wedi bod yn ystyried ffyrdd o ehangu eu busnes presennol a'i wneud yn fwy cynaliadwy. Er mwyn ychwanegu gwerth i'w cynnyrch, maent bellach yn mentro i werthu amrywiaeth o nwyddau charcuterie, dan yr enw Charcuterie Môn.


Y gefnogaeth a gafwyd gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

Gyda chyllid Prosiect Helix, daeth Mark i'r ganolfan i gael profiad ymarferol a thechnegol o gynhyrchu salami a chorizo ​​gyda Karl, sy'n dechnolegydd bwyd. Cafodd Mark hyfforddiant 1 i 1 wedi'i deilwra gan Karl, a oedd yn cynnwys gwybodaeth am ddewis a pharatoi cig, torri'r carcas, ynghyd â phecynnu a labelu. Gydag arbenigedd bwtsiera Karl, fe wnaethon nhw drio gwahanol ryseitiau i bennu'r blasau gorau i'w defnyddio ar gyfer y cynhyrchion terfynol.

Fel rhan o’r broses cynhyrchu chorizo cynhaliwyd profion microbiolegol, yn ogystal â chreu cynllun HACCP. Gyda'r gefnogaeth hon, bydd Mark yn gallu ehangu'r ystod o gynnyrch sydd ganddo ar hyn o bryd a lleihau gwastraff bwyd.


Manteision y Gefnogaeth

Dywedodd Mark: “Roedden ni am lansio ystod o gynhyrchion charcuterie a fyddai'n galluogi ein busnes i fod yn gynaliadwy ar ddwysedd stoc isel trwy ychwanegu'r gwerth ychwanegol mwyaf posibl i'r porc sydd wedi'i fagu yn yr awyr agored. Mae Karl wedi bod yn eithriadol. Mae ei wybodaeth am y diwydiant a'r profiad byd go iawn sydd ganddo o weithredu ei fusnes ei hun wedi bod yn amlwg drwyddi draw. Mae gweithio gyda Karl a Prosiect HELIX wedi rhoi’r hyder inni ddatblygu ein busnes, gan wybod ein bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol a safonau diogelwch bwyd. Heb y gefnogaeth hon fydden ni heb fod â'r hyder i ddechrau cynhyrchu charcuterie, a hynny gyda chanlyniadau cyson a diogel.

Bydd y gefnogaeth a gawsom yn ein galluogi i lansio ystod o gynnyrch a fydd yn ei dro yn ein galluogi ni i fynd at safleoedd gwerthu yn hyderus, gan wybod bod gennym gynnyrch o safon y gallwn ei atgynhyrchu'n gyson”.


https://www.instagram.com/char...

Charcuterie Môn