Lockdown Lobsters
Dechreuodd Lockdown Lobsters ym mis Mawrth 2020 gyda chenhadaeth syml i helpu pysgotwr, Siôn Williams, o ogledd Cymru i werthu ei gimychiaid, sy’n cael eu dal yn gynaliadwy, yn Llundain yn ystod cyfnod clo COVID-19.
Dechreuodd Lockdown Lobsters ym mis Mawrth 2020 gyda chenhadaeth syml i helpu pysgotwr, Siôn Williams, o ogledd Cymru i werthu ei gimychiaid, sy’n cael eu dal yn gynaliadwy, yn Llundain yn ystod cyfnod clo COVID-19. Cyn i’r pandemig daro roedd newydd gwrdd â’r ffotograffydd portreadau proffesiynol arobryn Jude Edginton, o Lundain, a sefydlwyd y busnes gyda chysylltiadau Jude a chynnyrch Siôn.
Cyn hynny roedd cimychiaid Cymreig o'r dyfroedd clir o amgylch Penrhyn Llŷn yn cael eu hallforio i Ewrop a Tsieina. Fodd bynnag, o achos y tarfu fu ar y farchnad yn sgil pandemig COVID-19, rhoddwyd cyfle i’r busnes fyrhau llinellau cyflenwi am byth drwy ddod o hyd i farchnad yn y DU ar gyfer un o gynhyrchion gorau Cymru.
Mae’r pysgotwr trydedd genhedlaeth, Siôn, yn lansio ei gwch o gildraeth bychan anghysbell ac mae'r cimychiaid y mae'n eu dal yn cael eu pacio mewn blychau oer i'w cludo ar y prynhawn cyn y dyddiad danfon.
Ers dechrau 2021, maent yn defnyddio ac yn dychwelyd eu blychau pwrpasol eu hunain i Gymru i dorri lawr ar wastraff polystyren. Mae Siôn yn danfon y cimychiaid Cymreig i Lundain i'w dosbarthu ar ddydd Sadwrn yn ystod yr haf a dyddiadau eraill ar benwythnosau y tu allan i'r tymor.
Mae Lockdown Lobsters hefyd yn dosbarthu ledled y wlad ar unrhyw ddyddiad o'ch dewis gan ddefnyddio gwasanaeth negesydd yn y DU.
Y gefnogaeth a gafwyd gan y Ganolfan Technoleg Bwyd
Gyda chyllid gan Brosiect HELIX, roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd yn gallu cefnogi'r busnes trwy gynhyrchu adroddiad ar gyfer cais am statws PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig). Mae'r statws PGI yn diogelu ac yn hyrwyddo cynhyrchion bwyd rhanbarthol penodol sydd ag enw da neu nodweddion penodol sy'n benodol i'r ardal honno.
Dywedodd Susan Allison Lane, technolegydd bwyd yn y Ganolfan Technoleg Bwyd,
“Cysylltodd Nia Griffith, Rheolwr Clwstwr Bwyd Môr Gogledd Cymru – Cywain â’r Ganolfan Technoleg Bwyd i lunio adroddiad ar gais PGI ar gyfer Cimychiaid Cymru. Bu Cywain, mewn cydweithrediad â'r Ganolfan Technoleg Bwyd, yn gweithio gyda Siôn i gymharu cimychiaid Cymreig â chimychiaid rhanbarthol eraill.
“Roedd Lockdown Lobsters eisiau sefydlu a oedd cimychiaid Cymru yn cynnig mantais o ansawdd uchel dros gimychiaid rhanbarthol eraill.
“Nod yr adroddiad oedd casglu gwybodaeth a thystiolaeth i gefnogi honiad PGI i sefydlu gwahaniaethau rhwng cimychiaid a ddaliwyd yn rhanbarthol o arfordir gogledd Cymru, arfordir Lloegr a chimychiaid a ddaliwyd yn yr Alban.
“Roedd yr adroddiad yn edrych ar y gwerthusiad synhwyraidd, y cynnyrch cig fesul cilogram, y gwerth maethol a dwysedd y gragen i weld a oedd gwahaniaeth rhwng pob dalfa o gimwch rhanbarthol a ddefnyddiwyd.”
Manteision y gefnogaeth
Dywedodd Siôn Williams o Lockdown Lobsters, “Wrth ddechrau Lockdown Lobsters roeddwn i eisiau byrhau’r gadwyn gyflenwi a lleihau ein hôl troed carbon. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr allforio bwyd môr o ansawdd uchel sy'n cynnwys llawer o faetholion ledled Ewrop a hanner ffordd o gwmpas y byd pan allen ni fod yn ei fwyta a chael budd economaidd ac iechyd wrth ei fwyta yn y DU.
“Rydyn ni bellach yn cyflenwi cimychiaid brodorol cynaliadwy â gofal ar draws y DU ac yn awyddus i ddarganfod a ellid rhoi statws PGI i'n cimychiaid brodorol Cymreig oherwydd eu safon uchel a'u blas unigryw.
“Mae’r cymorth a roddwyd gyda’r cais am statws PGI wedi bod yn wych, ac yn drylwyr iawn. Mae’r Ganolfan Technoleg Bwyd yn adnodd gwych yng ngogledd Cymru a byddwn yn argymell defnyddio eu harbenigedd.”
https://lockdownlobsters.co.uk/