Parisella's Ice Cream
Ar ôl derbyn nawdd gan Brosiect HELIX, gofynnodd Hufen iâ Parisella am gymorth gan Ganolfan Technoleg Bwyd i gael achrediad SALSA. Fodd bynnag, ar ôl i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngerddi Bodnant gysylltu â nhw, penderfynwyd y byddai newid i safonau ac ardystiadau diogelwch bwyd STS yn fwy buddiol, a fyddai'n fwy priodol ar gyfer eu cleient newydd.
CEFNDIR
Mae Parisella wedi bod yn gwneud hufen iâ yng ngogledd Cymru ers dros 60 mlynedd. Maen nhw'n cynhyrchu eu hufen iâ a sorbedau poblogaidd yn eu ffatri yng nghanol Conwy, ac yn berchen ar ddau barlwr hufen iâ, un yng Nghonwy a'r llall yn Llandudno. Maen nhw hefyd yn gwerthu eu cynnyrch yn gyfanwerthol ac yn berchen ar uned symudol.
Yn 2017 penderfynodd Parisella eu bod am gael achrediad SALSA er mwyn helpu gyda thwf eu busnes a'i ddatblygiad yn y dyfodol. Cysyllton nhw â'r Ganolfan Technoleg Bwyd a chael gwybod am Brosiect HELIX a'r nawdd oedd ar gael.
Y GEFNOGAETH A GAFWYD GAN Y GANOLFAN TECHNOLEG BWYD
Ar ôl derbyn nawdd gan Brosiect HELIX, gofynnodd Hufen iâ Parisella am gymorth gan Ganolfan Technoleg Bwyd i gael achrediad SALSA. Fodd bynnag, ar ôl i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngerddi Bodnant gysylltu â nhw, penderfynwyd y byddai newid i safonau ac ardystiadau diogelwch bwyd STS yn fwy buddiol, a fyddai'n fwy priodol ar gyfer eu cleient newydd.
Helpodd y Ganolfan Technoleg Bwyd gyda'r archwiliad a sicrhau bod eu gwaith papur yn gyfredol. Cynhaliodd y tîm drosglwyddiad gwybodaeth sylweddol ynghylch safonau diogelwch bwyd gydag archwiliadau mewnol hefyd, a helpu gyda chynllun HACCP y cwmni gan sicrhau bod yr holl bolisïau angenrheidiol yn eu lle.
Ar ôl dechrau'r broses ym mis Ebrill 2019, dyfarnwyd yr achrediad ym mis Gorffennaf 2019.
MANTEISION Y GEFNOGAETH
Diolch i nawdd gan Brosiect HELIX a chymorth y Grŵp Technoleg Bwyd, roedd Hufen Iâ Parisella yn gallu cwrdd â safonau achredu hanfodol er mwyn datblygu'r busnes a gwerthu eu cynnyrch yn bellach oddi cartref, gan gynnwys eu cleient newydd, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngerddi Bodnant.
Ar ôl ennill achrediad STS a datblygu eu prosesau cynhyrchu, mae'r cwmni bellach mewn sefyllfa lawer cryfach i gyrchu marchnadoedd newydd a chwrdd ag anghenion eu cleientiaid presennol yn llwyr.
Dywedodd Tony Parisella, Cyfarwyddwr Hufen Iâ Parisella,
Ein Technegydd Bwyd o'r Ganolfan Technoleg Bwyd oedd ein harweinydd a'n mentor drwy gydol yr holl broses. Roedd ei help hi'n amhrisiadwy gyda'r archwiliad drwy ein helpu ni i ailysgrifennu safonau bwyd, dogfennu pob cam o'r broses fwyd, gan sicrhau bod y polisïau yn eu lle ar gyfer cynnal a chadw, rheoli plâu, cymeradwyo cyflenwyr a rheoli offer i enwi ond rhai. Mae ennill yr achrediad newydd wedi agor nifer o ddrysau inni, gan arwain at fwy o gyfleoedd i werthu gyda chwmnïau mwy ac arwain at gytundebau newydd. Bellach mae gennyn ni 90 o gyfrifon cyfredol ar hyd a lled gogledd Cymru, sydd wedi gweld cryn dwf mewn cynhyrchu a gwerthiant. Rydw i'n credu mai diolch i'r help gan y Ganolfan Technoleg Bwyd a'r nawdd gan Brosiect HELIX rydyn ni wedi cael achrediad STS. Gallwn ni nawr ddangos i'r cleientiaid a'r cwsmeriaid ein bod ni'n cyrraedd Safon Diogelwch Bwyd STS yn gyson a'n bod ni'n cymryd y camau gofynnol er mwyn diogelu ein busnes a'n cynnyrch.