Siwgr A Sbeis
Gyda’r archwiliad SALSA blynyddol i’w gynnal ym mis Gorffennaf 2023, roedd angen cymorth ar Siwgr a Sbeis i adnewyddu eu gwaith papur i’r safon Rhifyn 6 newydd, wrth gwblhau eu hadolygiad blynyddol.
CEFNDIR
Lansiwyd Siwgr a Sbeis yn 1989 gan Rhian Owen a Rhian Williams, hen ffrindiau ysgol. Fe ddechreuon nhw bobi a gwerthu amrywiaeth o gacennau o'u siop yn Llanrwst gyda gweithlu o ddim ond tri.
Heddiw, mae’r busnes wedi’i leoli mewn becws modern 5,000 troedfedd sgwâr yn Llanrwst, ac yn cynhyrchu dewis eang o gacennau, pwdinau a quiches sawrus ar gyfer cwsmeriaid ledled Cymru. Mae nifer o'u cynhyrchion hefyd wedi ennill gwobrau, gan gynnwys nifer o wobrau aur Great Taste.
Gellir dod o hyd i gynnyrch Siwgr a Sbeis mewn adwerthwyr amrywiol, gan gynnwys siopau, gwestai, caffis, bwytai a chanolfannau garddio.
Y GEFNOGAETH A GAFWYD GAN Y GANOLFAN TECHNOLEG BWYD
Gyda’r archwiliad SALSA blynyddol i’w gynnal ym mis Gorffennaf 2023, roedd angen cymorth ar Siwgr a Sbeis i adnewyddu eu gwaith papur i’r safon Rhifyn 6 newydd, wrth gwblhau eu hadolygiad blynyddol.
Gyda chyllid Prosiect HELIX, penodwyd y technolegydd bwyd Julia Skinner i'w helpu. Ymwelodd â'r safle yn Llanrwst i adolygu dogfennaeth a chreu rhestr o gamau i’w gweithredu cyn yr archwiliad.
‘Gyda'u harchwiliad SALSA blynyddol ar fin digwydd, ymwelwyd â'r becws i gynnal adolygiad o'r holl ofynion archwilio. Mae cynnal adolygiad blynyddol yn un o’r gofynion archwilio, a lle bo’n bosibl dylai fod yn annibynnol er mwyn osgoi rhagfarn, megis trwy ddefnyddio ymgynghorydd allanol. Roedd hyn yn cynnwys adolygu'r holl ragofynion, cynlluniau HACCP, systemau rheoli a'r safle. Nodwyd unrhyw fylchau a rhoddwyd cymorth lle bo angen i gwblhau'r camau hyn.'
Yn ogystal, rhoddodd Julia gefnogaeth i labelu tri chynnyrch newydd sydd i'w lansio; pwdin, browni a fflapjacs. Darparodd restr o gynhwysion i Siwgr a Sbeis a oedd yn addas i'w hargraffu ar eu pecynnau a chyfrifwyd datganiadau maeth gan ddefnyddio meddalwedd maeth.
MANTEISION Y GEFNOGAETH
Meddai Rhian o Siwgr a Sbeis 'Roedd angen i ni gadw ein hachrediad SALSA er mwyn bod mewn sefyllfa i gyflenwi'r cwsmeriaid a oedd angen ac yn gofyn am yr achrediad hwn. Pan gyflwynwyd safon Rhifyn 6, doeddwn i ddim yn teimlo bod gennym ni ddigon o wybodaeth ac arbenigedd i wneud y newidiadau angenrheidiol.
Roedd gweithio gyda'r technolegydd yn wych; roedd hi’n ein harwain drwy'r gwahanol adrannau, ac roedd y cyngor ar y gwahanol agweddau ac ati heb ei ail. Roedd lefel y wybodaeth a oedd gan y technegydd yn wych gan ein galluogi i weithio tuag at a chyflawni ein hachrediad. Roedd hi'n ardderchog am ateb ein cwestiynau ac esbonio'r holl ofynion, roedd gweithio ar y safle o fantais, yn ogystal â gweithio dros e-bost.
Mae'n bwysig, ac yn golygu y gallwn ni barhau i gyflenwi’r cwsmeriaid sydd angen yr achrediad hwn, mae hefyd yn golygu y gallwn archwilio marchnadoedd newydd a mynd at gwsmeriaid newydd. Mae’r achrediad SALSA yn rhoi hyder yn ein cwmni i'n cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid'.