Smashed Cow Sauces
Gyda chyllid gan Brosiect HELIX, penodwyd technolegydd bwyd i John i'w helpu i ddatblygu Dadansoddi Peryglon a'r Pwynt Rheoli Critigol (HACCP) a'r dogfennau gofynnol.
Cefndir
Gwnaeth y cynhyrchydd o Ogledd Cymru sy’n gyfrifol am Smashed Cow Sauces ddod â'i gynnyrch cyntaf ar y farchnad ym mis Hydref 2024.
Dechreuodd y fenter o Lanrug ar ei thaith fel cynhyrchydd bwyd yn gynharach yn y flwyddyn, gan lansio ei gynhyrchion cyntaf erbyn hyn: Saws Barbeciw Triog, Saws Tsili Melys, Mango a Phupur Coch, a Saws Tsili Garlleg Kung Pow! Mae cymysgeddau sbeis sych a sesnin hefyd ar y gweill.
Mae'r perchennog, John Ritchie – sy’n gogydd profiadol - wedi creu Sawsiau Smashed Cow fel menter deuluol. Mae'n gobeithio y daw'n gyfle cyflogaeth yn y dyfodol i'w ferch ifanc, sy'n awtistig. Buwch yr ucheldir yw logo'r cwmni, sy'n cyfeirio at ei wreiddiau Albanaidd a diddordeb ei ferch yn y gwartheg.
Y gefnogaeth a gafwyd gan y Ganolfan Technoleg Bwyd
Gyda chyllid gan Brosiect HELIX, penodwyd technolegydd bwyd i John i'w helpu i ddatblygu Dadansoddi Peryglon a'r Pwynt Rheoli Critigol (HACCP) a'r dogfennau gofynnol. Derbyniodd gymorth hefyd gyda methodoleg offer prosesu, pennu'r oes silff, asesu'r maeth a labelu'r cynnyrch terfynol.
Daeth John i'r ganolfan gyda thri gwahanol fformiwla i greu'r cynnyrch. Er mwyn datblygu HACCP addas ac i sicrhau diogelwch a chysondeb y cynhyrchion, prynodd y Ganolfan Technoleg Bwyd gynhwysion a phecynnau i gynnal cynllun peilot i gynhyrchu 50kg, sy’n efelychu swp cynhyrchu nodweddiadol, gan ddefnyddio'r pasteureiddio a'r offer potelu ar gael yn Neuadd Bwydydd Parod y Ganolfan.
Ar ôl cynhyrchu'r sawsiau, cynhaliwyd dadansoddiad maeth a phrofion oes silff. Mae'r holl wybodaeth am faeth wedi'i chyfrifo gan ddefnyddio pecyn meddalwedd maeth y Ganolfan Technoleg Bwyd, sy'n defnyddio data maeth a brofwyd yn wyddonol ynghyd â fformiwlâu ryseitiau John.
O ganlyniad i'r gwaith a ariannwyd gan Brosiect HELIX, llwyddodd John i fynd â'i gynnyrch o'r cysyniad i'r farchnad cyn pen blwyddyn, ac mae bellach yn gallu dechrau masnachu sawsiau Smashed Cow.
Manteision y Gefnogaeth
Meddai John: ‘Cefais fy nghyflwyno i’r Ganolfan Technoleg Bwyd am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2023 ar awgrym fy Swyddog Iechyd yr Amgylchedd lleol.
Fy mwriad oedd dechrau cwmni sawsiau cartref bach i lunio busnes teuluol ar gyfer fy merch ifanc awtistig. Roeddwn i eisiau iddi allu gweithio ochr yn ochr efo fi yn y dyfodol i'w helpu, gobeithio, i ddatblygu rhai sgiliau gweithle i'w galluogi i feddu ar y potensial i sicrhau swydd yn y dyfodol.
O fewn ychydig wythnosau, cefais fy nghyflwyno i Julia a Steven a dechreuais newid fy nghynlluniau i gynyddu maint y busnes pan ddangoswyd i mi y posibiliadau o ran yr hyn y gallai'r Ganolfan Technoleg Bwyd ei gynnig i fusnes newydd.
Roedd cyllid Prosiect HELIX yn wych ac wedi fy ngalluogi i wireddu fy nghynlluniau busnes yn gyflym. Fe wnaeth eu cymorth a’u cyngor wrth lunio'r HACCP, dadansoddi oes silff a hyfforddiant ein galluogi i hepgor y prosesau cartref a symud yn syth at sefydlu’r busnes i safon sy’n gweddu i broses weithgynhyrchu fodern ar raddfa fach. Heb os, bydd y cymorth hwn yn fy helpu i sicrhau llawer mwy o gleientiaid yn y dyfodol.
Ar ôl 11 mis o weithio gyda'r Ganolfan Technoleg Bwyd, rydw i bellach yn gallu cyflenwi ystod fach o sawsiau mewn potel sy'n ddiogel ac yn sefydlog i siopau, bwytai a chwsmeriaid uniongyrchol. Edrychaf ymlaen at adeiladu ar y gwaith hwn gyda'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn y dyfodol drwy ailddatblygu'r prosesau er mwyn medru cyflenwi i ddosbarthwyr mwy yn y gadwyn fwyd lleol'.