The Pudding Compartment
Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn cefnogi The Pudding Compartment ers iddyn nhw greu eu cynnyrch cyntaf dros ddegawd yn ôl. Yn 2012, roedd y cwmni eisiau ennill achrediad SALSA ond nid oedd y safle cyntaf yn Abergele yn addas.
CEFNDIR
Dechreuodd The Pudding Compartment yn 2007, yn fusnes yn Abergele â dau aelod o staff yn unig. Heddiw, mae gan y cwmni dîm o 25 ac maent bellach wedi ymgartrefu yn y Fflint.
Caiff y cwmni ei gydnabod am arbenigo mewn cyflenwi'r sector teithio, gwasanaeth bwyd a busnes i fusnes â nwyddau label gwyn, ac maen nhw'n sicrhau eu bod yn cael gafael ar gynnyrch moesegol ac yn defnyddio cyflenwyr lleol pan fo'n bosibl.
Mae'r cwmni'n falch o fod yn gynhyrchydd Cymreig, ac wedi datblygu partneriaethau gyda busnesau Cymreig eraill drwy ddefnyddio eu cynhwysion neu gynhyrchu ar eu rhan.
Y GEFNOGAETH A GAFWYD GAN Y GANOLFAN TECHNOLEG BWYD
Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn cefnogi The Pudding Compartment ers iddyn nhw greu eu cynnyrch cyntaf dros ddegawd yn ôl. Yn 2012, roedd y cwmni eisiau ennill achrediad SALSA ond nid oedd y safle cyntaf yn Abergele yn addas. Gyda chymorth ac arweiniad y Ganolfan, daeth The Pudding Compartment o hyd i leoliad newydd a mwy yn y Fflint. Ers cael achrediad SALSA, mae'r Ganolfan wedi parhau i helpu'r cwmni i gadw eu hachrediad.
Gan fod cleientiaid The Pudding Compartment yn gofyn fwyfwy am gyfnod silff hirach ar gyfer cacennau, defnyddiwyd cefnogaeth gan Brosiect HELIX i gynnal profion cyfnod silff yn y Ganolfan yn Llangefni. Roedd hyn yn golygu ailgreu'r rysáit a rhoddodd y cwmni samplau i'r Ganolfan i gael eu micro brofi. Rhoddwyd cefnogaeth ac arweiniad parhaus pan ac os oedd angen.
MANTEISION Y GEFNOGAETH
O ganlyniad i'r gefnogaeth a roddwyd gan y Ganolfan Technoleg Bwyd, mae The Pudding Compartment wedi gweld gwelliant sylweddol yn eu cynnyrch, ac yn ystod y saith mlynedd diwethaf, mae eu trosiant wedi cynyddu o £50,000 i £1m. Gwnaed gwaith sylweddol o ran datblygu, gwella a phrofi'r cynnyrch presennol, ac mae'r cwmni wedi profi manteision eraill fel y cyfle i fynd i gynadleddau ac ymweld â safleoedd – cyfleoedd na fyddai wedi cael eu cynnig i'r cwmni heb gefnogaeth gan Brosiect HELIX.
Mae The Pudding Compartment hefyd yn mynychu digwyddiadau ar gyfer y grŵp clwstwr. Caiff y digwyddiadau hyn eu trefnu er mwyn rhwydweithio, ac mae siaradwyr gwadd yn rhoi cyflwyniadau craff ac ysbrydoledig yn rheolaidd.
Fel busnes bach, mae The Pudding Compartment yn teimlo na allan nhw bennu swydd dechnegol lawn-amser ar hyn o bryd, felly maen nhw eisiau pennu person technegol o'r Ganolfan Technoleg Bwyd fel rhan o raglen gysylltiol. Mae'r cwmni hefyd eisiau ennill achrediad BRC gyda chymorth y Ganolfan Technoleg Bwyd.
Dywedodd Steve West, Rheolwr Gyfarwyddwr The Pudding Compartment,
Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni wedi bod yn adnodd amhrisiadwy sydd wedi ein helpu ni i ddatblygu ein busnes. Ni fydden ni mewn cystal sefyllfa heddiw heb gefnogaeth gan Brosiect HELIX a chefnogaeth barhaus y Ganolfan. Os ydyn ni byth yn wynebu heriau, gyda'r Ganolfan rydyn ni'n cysylltu'n gyntaf. Yn yr un modd, mae'r Ganolfan yn ein hysbysu ni ac yn rhoi'r newyddion diweddaraf inni ynghylch unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth - sy'n hanfodol i fusnes fel ein un ni. Mae'r Ganolfan wedi bod yn rhan fawr o'n llwyddiant ni o'r cychwyn cyntaf, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw ar gynnyrch yn y dyfodol. Rydyn ni'n gwerthfawrogi eu dull o weithio mewn partneriaeth.